Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir
22 Medi 2014
CLA443
- Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu
Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru)
2014
Gweithdrefn: Negyddol
Caniateir rhagnodi atodol ac annibynnol yn rhinwedd deddfwriaeth
meddyginiaethau y DU. Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol
2012 bellach yn caniatáu i ffisiotherapydd-ragnodydd
annibynnol a phodiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd
annibynnol roi presgripsiynau. Caiff y gweinyddiaethau
datganoledig weithredu hyn yn ôl eu dymuniad.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:-
drwy estyn y diffiniad o ragnodydd drwy fewnosod gategorïau newydd o ragnodydd annibynnol, sef ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol; a phodiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol.
Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 yn cael eu diwygio i estyn yr esemptiad i’r gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro, a ddefnyddir yn unig i ddal cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a ddarperir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddir gan ragnodwyr penodol, i'r rhai a ddyroddir gan ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol; a phodiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol.
CLA445 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae adran 2 yn Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn darparu bod Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i barhau i fodoli ond y bydd yn newid ei enw i Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r Cyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor a phenodi’r prif swyddog.
CLA447 - Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y
Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros
Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio’r
diffiniadau o ranbarthau talu ‘rhostir’ ac ‘ardal
dan anfantais difrifol’ yng Nghymru. Maent hefyd yn
ehangu’r criterion ar gyfer apelio yn erbyn dosbarthiad tir
at ddibenion y Cynllun Taliad Sylfaenol.